top of page

BAND IEUENCTID

Arweinydd: Pete Cowlishaw
Mae Seindorf Beaumaris yn falch iawn o'i hadran ieuenctid a pinacl yr adrannau yma yw'r Band Ieuenctid.
​
Mae'r Band Ieuenctid wedi sicrhau eu lle fel un o prif Fandiau Ieuenctid Cymru. Yn 2023 llwyddodd y Band Ieuenctid i ennill Cystadleuaeth Adran Ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol a sicrhau gwahoddiad i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop yn Palanga, Lithiwania yn 2024.

Dyma fydd yr ail dro i Seindorf Ieuenctid Beaumaris gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop wedi i'r band gipio'r trydydd safle yn yn Utrecht, Yr Iseldiroedd gyda'r unawdydd, Merin Lleu, yn ennill y wobr fel Prif Unawdydd Bandiau Ieuenctid Ewrop.

Maent hefyd wedi profi llwyddiant ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ynysoedd Prydain, Pencampwriaeth Adloniant Bandiau Pres Ieuenctid Ynysoedd Prydain yn y Winter Gardens, Blackpool yn ogystal ag ennill Gwobr Aur am Arloesi yng Ngŵyl Cenedlaethol Music For Youth yn Symphony Hall, Birmingham. Mae cerddorion ifanc y Band Ieuenctid hefyd wedi perfformio yn y Schools Prom yn y Royal Albert Hall ac yng nŵyl Brass in Concert yn y Sage, Gateshead.

​

Mae'n destun balchder mawr i weld y cerddorion ifanc yn esgyn trwy'r adrannau iau a chymryd eu seddi gyda'r Band HÅ·n.


Mae'r Band Ieuenctid yn ymarfer ar nos Fawrth rhwng  7.00pm a 9.00pm

bottom of page