Cipiodd Seindorf Beaumaris coron yr Ail Adran ym Mhencampwriaeth Cymru yn Abertawe ddydd Sadwrn gan sicrhau trydydd ymweliad o'r bron i Bencampweriaeth Ynysoedd Prydain yn Cheltenham.
Wrth adrodd ar y perfformiad disgrifiwyd berfformiad y band fel un "aeddfed a chaboledig oedd yn cynnig cymaint yn gerddorol" gan un o'r beirniaid, Glyn Williams gyda'i gyd feirniad, John Maines yn sôn am "berfformiad coeth gan fand coeth." Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy i Gyfarwyddwr Cerdd y band, Bari Gwilliam, oedd yn arwain y band ar lwyfan cystadleuaeth am y tro cyntaf. "Fedra'i ddim diolch digon i'r band," meddai Bari yn dilyn y gystadleuaeth. "Mae pob un aelod wedi gweithio yn ofnadwy o galed a 'da ni wedi llwyddo i gael perfformiad penigamp. 'Dwi wrth fy modd." Roedd y fuddugoliaeth yn felysach hefyd, wrth i sawl chwaraewr o'r Band Ieuenctid yn cystadlu gyda'r Band Hŷn am y tro cyntaf . "Rydym o hyd yn colli chwaraewyr wrth i bobl ifanc adael yr ynys er mwyn mynd i'r Brifysgol ond mae cael cymaint o chwaraewyr ifanc yn y band yn golygu eu bod nhw'n fodlon gweithio'n galed," eglurodd Bari. "Canlyniad hynny yw perfformiad fel y cafwyd ar y llwyfan yna heddiw. 'Dwi mor falch ohonnyn nhw i gyd. 'Da ni wedi bod yn falch o'n system ieuenctid yn Beaumaris a gyda chymysgedd o chwaraewyr profiadol ymysg y rhai ifanc, roedden ni'n credu fod cyfle i ni wneud ein marc." "Roedd 14 chwaraewr ar y llwyfab dan 18 mlwydd oed ac roedd dau chwaraewr hŷn yn cystadlu am y tro cyntaf hefyd, felly dwi'n hynod, hynod o falch ohonnyn nhw i gyd." Bydd Seindorf Beaumaris yn dychwelyd i Cheltenham er mwyn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Ynysoedd Prydain gan obeithio mynd un cam yn well na'r ail safle o fis Medi diwethaf.
Commentaires