top of page

Mynediad am ddim


Os ydych chi wedi chwarae mewn cystadleuaeth Band Pres erioed, 'da chi'n siwr o fod wedi derbyn tocyn fyddai yn eich caniatau i gael mynediad i'r neuadd yn rhad ac am ddim, un o'r manteision o chwarae meddai rhai. Ond beth sy'n digwydd i'r holl docynnau yma?


Mae'n siwr fod y mwyafrif o docynnau yn ffendio eu hunain yn y bin ochr yn ochr â'r bag brechdan a gwm cnoi neu'n cael eu hunain yn y peiriant golchi ym mhoced trowsus neu grys band!


Ond, diolch i'r nefoedd, mae ambell i chwaraewr yn cadw'r tocynnau fel memento o'r diwrnod a thra'n clirio'r atig yn Bandroom Beaumaris cawsom hyd i lond lle o docynnau ... a'r rhain i gyd mewn poced un o gotiau'r band!


Mae'r tocynnau yn dyddio o Rali Gogledd Cymru yn Llandudno ym 1998 hyd at Cystadleuaeth Unawdau a Phedwarawdau Gogledd Cymru yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda yn 2004 ac yn cynnwys rhai o gampau mwyaf y Band.

Mae 'na docyn ar gyfer buddugoliaeth y B Band yn y Bedwaredd Adran Pencampwriaethau Bandiau Pres Ynysoedd Prydain yn Neuadd Albert yn 2000 yn ogystal ag ymddangosiad cyntaf y Band yn y Grand Shield, Blackpool a cwpwl o ymddangosiadau yn Rowndiau Terfynol Adran y Bencampwriaeth yn Neuadd Albert.


Mae 'na docynnau i gystadlaethau sydd wedi hen ddiflannu fel Pencampwriaeth Pontins a Gŵyl Pres Y Rhyl a'n Gŵyl Pres ein hunain yma yn Beaumaris.


Heb law am raglen swmpus yn rhai o gystadlaethau mwyaf byd y bandiau, nid oes llawer i memento ar gael o ddiwrnod cystadlu sydd ddim yn stamp ar gerdyn cofrestru, ac mae hynny'n gwneud y casgliad yma o effemera hyd yn oed yn fwy difyr.

Gyda ticedi ar gael ar-lein a gyda bandiau arddwrn yn dod yn fwy fwy poblogaidd, mae oes y tocyn yn prysur ddirwyn i ben. Pan fu ein Band Ieuenctid yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop llynedd roedd sawl aelod wedi ceisio tynnu eu band garddwn yn ofalus iawn rhag ei rwygo er mwyn cael rhyw fath o atgof o'r diwrnod.


Ond, wedi dweud hynny, dwi ddim yn credu byddai dod o hyd i llond poced o fandiau arddwrn ymhen degawd yn dod a chymaint o gyffro â'r darganfyddiad yma o lond poced o atgofion!

25 views

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page