Llwyddodd Seindorf Ieuenctid Beaumaris i gwblhau penwythnos hanesyddol yn Yr Iseldiroedd trwy orffen yn drydydd ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres ieuenctid Ewrop tra bod y trombonydd, Merin Rhyd, hefyd wedi cipio'r wobr ar gyfer yr Unawdydd Gorau.
Roedd 22 o Fandiau Pres o 26 o wledydd gwahanol yn cystadlu yn yr ŵyl Bandiau Pres flynyddol yn Neuadd Cyngerdd godidog TivoliVredenburg Concert Hall yn Utrecht gyda Seindorf Beaumaris yn cynrychioli Cymru yn Uwch Adran y gystadleuaeth Ieuenctid.
"Heb os, dyna'r perfformiad mwyaf angerddol ac emosiynol 'dwi erioed wedi ei arwain gyda Band Ieuenctid," meddai Cyfarwyddwr Cerdd Seindorf Beaumaris, Gwyn Evans. "Byddwn i ddim wedi gallu gofyn am fwy gan y grŵp ifanc yma o gerddorion."
"Maent yn rhoi o'u calon a'u henaid yn y Bandroom yn wythnosol ac roedd y perfformiad yna'n arbennig. Fi ydi'r arweinydd Band Ieuenctid mwyaf lwcus ar y blaned," ychwanegodd Gwyn.
Roedd y trombonydd, Merin Rhyd, gasglodd y wobr ar gyfer yr Unawdydd Gorau am ei ddatganiad o Carnival of Venice hefyd wedi gwirioni gyda'i wobr. "Mae'n hollol anghredadwy," meddai. "Doeddwn i wir ddim yn disgwyl hyn. Mae'n fraint gallu chwarae ym Mhencampwriaethau Ewrop yn y lle cyntaf ond mae gallu mynd adref gyda gwobr yr Unawdydd yn anrhydedd anferth."
Roedd Gwyn Evans yn sydyn iawn i ddiolch i'r gymuned yn Beaumaris ac Ynys Môn am eu caredigrwydd wrth i'r Band godi arian tuag at y daith i'r Iseldiroedd.
"Mae'n costio lot fawr o arian i gludo 49 o chwaraewyr a'u hofferynau yn ogystal â'r tiwtoriaid a'r gwarchodwyr i Utrecht am benwythnos a buaswn yn hoffi diolch o waelod calon i pawb fu mor garedig," meddai Gwyn.
"Mae'r gefnogaeth rydym wedi ei gael gan y gymuned wedi dod a deigryn i lygaid dyn," meddai. "Yn ogystal â rhoddion caredig iawn gan y Cyngor Tref a'r Cyngor Sir mae cymaint o bobl Beaumaris ac Ynys Môn wedi bod yn hael dros ben."
"Byddai wedi bod yn amhosib i ni wneud hyn heb y gefnogaeth yna a dwi'n gobeithio fod ein perfformiad wedi helpu talu rhywfaint o hynny yn ôl."
コメント