Llwyddodd Seindorf Ieuenctid Beaumaris i ennill y gystadleuaeth Bandiau Ieuenctid ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Boduan brynhawn Sul ac wrth wneud hynny, sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop ar gyfer fis Mai 2024.
Seindorf Ieuenctid Beaumaris oedd enillwyr olaf cystadleuaeth Ieuenctid yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug ym 1991 ac roedd 'na cryn ddathlu wrth i gerddorion ifanc Beaumaris godi'r tlws 33 mlynedd yn ddiweddarach.
Ers ailsefydlu'r gystadleuaeth ieuenctid, a chan nad oes Pencampwriaeth Cenedlaethol Gymreig, mae Cymdeithas Bandiau Pres Ewrop wedi cytuno mai cystadleuaeth yr Eisteddfod fydd y ffordd o ddewis cynrychiolydd Cymru ar gyfer Pencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop.
O'r herwydd bydd Seindorf Ieuenctid Beaumaris yn teithio i Palanga, Lithiwania ym mis Mai 2024 er mwyn cystadlu yn erbyn prif fandiau ieuenctid Ewrop.
“Dwi mor, mor falch o’r holl chwaraewyr,” meddai arweinydd y Seindorf Ieuenctid, Pete Cowlishaw. “Wedi ennill ym Mhencampwriaethau Prydain yn gynharach eleni, mae'n fraint anferth ennill yn yr Eisteddfod a chael ein hystyried yn Bencampwyr Cymru.”
"Ond mae'r gwaith caled yn cychwyn heddiw er mwyn paratoi i herio'r bandiau gorau o holl wledydd Ewrop!"
Comments