top of page
Writer's pictureSeindorf Beaumaris Band

Diwrnod balch yn Cheltenham


Fel sy'n wir am bopeth mewn bywyd, cyfres o deithiau ydi bywyd Band Pres, a cychwynodd Seindorf Beaumaris ar y daith diweddaraf wrth deithio i Cheltenham er mwyn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ynysoedd Prydain.


2012 oedd y tro diwethaf i'r band chwarae ym Mhencampwriaethau Prydain a hynny ar y lefel uchaf un yn Adran y Bencampwriaeth yn Neuadd Albert.


Ond wedi hoe o chwe mlynedd mae'r band yn cychwyn ar siwrne newydd gyda'r camau cyntaf yna yn digwydd yn y Bedwaredd Adran.


Roedd cipio'r ail safle ym Mhencampwriaeth Cymru ym mis Mawrth yn golygu fod Beaumaris yn ennill yr hawl i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ynysoedd Prydain yn Cheltenham.


Bu i Seindorf Arian Beaumaris a'r Cylch gystadlu yn Rowndiau Terfynol y Bedwaredd Adran ym 1991 tra bod Seindorf 'B' Beaumaris wedi cystadlu yn y Rowndiau Terfynol yn 2000.


Cafodd lond llaw o aelodau presenol y Band y profiad o siwrne blaenorol y band o'r Bedwaredd Adran i Adran y Bencampwriaeth, ond doedd 14 o'r aelodau presenol gamodd i'r llwyfan yn Cheltenham heb eu geni pan enillodd y 'B' Band y Bencampwriaeth 19 o flynyddoedd yn ôl!


Wedi dod alln o'r het i chwarae 11eg o'r 19 Band yn y gystadleuaeth roedd yn fore nerfus iawn i'r chwaraewyr oedd yn profi'r Rowndiau Terfynol am y tro cyntaf, ond diflanodd y nerfau ar ôl cychwyn ar y gerddoriaeth.


Yn anffodus ni lwyddwyd i efelychu llwyddiant 1991 a 2000 ond sicrhawyd pedwerydd safle parchus iawn a gyda dyrchafiad i'r Drydedd Adran mae'n argoeli'n dda ar gyfer 2020 i Seindorf Beaumaris.

6 views

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page