Bws cynnar, cysgu'n hwyr, siaced coch ar goll, brechdanau ŵy cyn brecwast, crysau gwyn ... a choffi ymhobman, newid mewn tŷ gwydr, dici-bôs cau cau, stamp ar y cerdyn, perfformiad arbennig, llun ar y bandstand, tlws arall i'r Bandroom, cwmni da, ffrindiau da ... a pawb adref cyn amser tê!
Dyna chi flas ar ddiwrnod cystadlu arall i Seindorf Beaumaris, ac mae'n rhaid dweud, os am weld rhai o leoliadau prydferthaf Ynysoedd Prydain gallwch wneud llawer gwaeth nag ymuno â'r band!
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r band wedi chwarae mewn sawl neuadd odidog dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys y Royal Albert Hall, y Sage yn Gateshead a Neuadd Symphony, Birmingham ac yn ôl ym mis Hydref cafodd y band y fraint o chwarae yn Neuadd y Dref, Rochdale fel rhan o gystadleuaeth Gogledd Orllewin Lloegr.
Cafodd y Neuadd Gotheg yn Rochdale ei hadeiladu ym 1887 ac mae'n gampwaith bensaerniol.
Mae'r ffenestri lliw yn y neuadd fawr lle cynhelir y gystadleuaeth yn ddigon i fynd a gwynt unrhyw un - sy'n dipyn o broblem pan mae rhywun i fod yn canolbwyntio ar ei gerddoriaeth!
Ond yn hytrach na phensaerniaeth arbennig, golygfeydd godidog naturiol Ardal y Copaon oedd yn mynd â gwynt y band yn gynnar iawn fore Sul diwethaf wrth i'r bws oedd yn ein cludo i Ŵyl Bandiau Pres Buxton nadreddu ei ffordd heibio i dafarn enwog y Cat & Fiddle.
Er, does wybod faint o'r golygfeydd oedd rhai o'r aelodau iau wedi llwyddo i'w gweld diolch i'r ffaith fod y bws wedi cychwyn o Beaumaris am chwech o'r gloch y bore!
Mae Gŵyl Buxton wedi bod yn un o hoff gystadlaethau Seindorf Beaumaris dros y blynyddoedd felly braf iawn oedd gallu cystadlu unwaith eto.
Yn chwarae'r darn prawf, New World Sketches, cafwyd canmoliaeth mawr i'r band gyda'r beirniad, Mike Kilroy, yn disgrifio'r perfformiad fel un "llawn bywyd ac egni cerddorol" a cafwyd cydnabyddiaeth a chlod i'r unawdwyr.
Roedd hi'n agos iawn ar y brig, meddai'r beirniad yn ei araith ar ddiwedd y gystadleuaeth a bu rhaid i Beaumaris fodloni ar yr ail safle ond gyda beirniadaeth adeiladol ar gyfer adeiladu tua Pencampwriaeth Ynysoedd Prydain ym mis Medi.
Comments