SEINDORF BEAUMARIS BAND
Wedi ei lleoli yn nhref Beaumaris ar Ynys Môn, mae Seindorf Beaumaris yn fand sydd wedi ei gwreiddio yn ei chymuned ac yn falch iawn o allu fod yn lysgenhadon i'r dref, yr ynys ac i ogledd Cymru.
Ffurfiwyd y band ym 1921 ond yn wahanol iawn i sawl band cyfagos nid oedd yna draddodiad mawr o gystadlu ar lefel cenedlaethol. Prif nod y band oedd chwarae yng ngweithgareddau dinesig Beaumaris yn ogystal a diddanu'r nifer o ymwelwyr oedd yn ymweld â'r dref er mwyn gweld y castell, carchar a phier enwog.
​
Mae'r traddodiad dinesig yn parhau hyd heddiw gan fod y band yn arwain gorymdeithiau blynyddol Sul y Maer a Sul y Cofio yn ogystal a sawl carnifal, fete ac, wrth gwrs, gwasanaethau Carolau'r Nadolig.
​
Y Band HÅ·n yw pencamwyr presenol Ail Adran Cymru gan sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf ar gyfer 2023.
Mae'r adran Iau wedi gweld y Band Ieuenctid yn gorffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn Utrecht yn ogystal â pherfformio ar lwyfan y Royal Albert Hall, y Sage, Gateshead ac ennill Pencampwriaeth Adloniant Bandiau Pres Ieuenctid Ynysoedd Prydain, tra bod y Band canolradd wedi ennill gwobr aur ym Mhencampwriaeth Ieuenctid Ynysoedd Prydain yn y blynyddoedd diweddar.
​